Dwyfor gan W.R.P.
George
O Gwm Pennant iw hantur - y try hon
Hyd y traeth drwyr syntur;
Ei dylin gadael dolur
Daear dôl dan aradr dur.
Uwch Llyn Tan Capel gwelir - wniadreg
Rhaeadrau y coetir;
Edau wen trwy lednais dir
Eifionydd ydywr feinir.
Maen ei dwr ir gwr a garo - enwair
Bysgod glan yn nofio;
Yn dynn yn ei abwyd o
Tan y coed maent yn cydio.
Yn oer eigion Llyn Gwragedd - mae eog
Or mwyaf yn gorwedd;
Rhydd dyfnder hyder a hedd,
Y geulan ei hymgeledd.
Ger araf drofaur afon - hynafol
Anghofiwn ofalon;
Ei lli syn eli calon
Yn yr oes wyllt, ddyrys hon.
Ir tangnef ger Coed Trefan - oi daith arw
Daeth i orwedd weithian
Wr glew fun grwt ar ei glan;
Ei erlid ni wnar dorlan!
Trwy Lyn Cam y llam ei lli, - ai hwyneb
Tua thonnaur weilgi;
Can Dwyfor yw: "Môr i mi",
Ai rhedlif yn pêr odli.
Ger Dwyfor egyr deufyd - eu dorau,
Gwelaf diroedd hyfryd;
Yno bwriaf am ennyd
Om meddyliau boenau byd.

YR AFON DDWYFOR
"O Lyn Meirch i Lan y Mor"
Llyn y Meirch, a Gallt y Widdan
A Llyn Glas ar gwr Coed Trefan.
A gerllaw y mae Pwll Berw,
Clywir swn a dwndwr hwnnw.
Noddlyn wedyn ai ddwr llonydd
A llochesau ei dorlennydd.
Llyn Maen Mawr a Llyn y Genod
Llyn Tynewydd gwael am bysgod.
Y Dorlan Fawr wedi ei golchi
Ymaith gan y mynych genlli.
Llyn y Bont ar garreg honno
Yn ei ganol, da rwyn cofio;
Llyn Tan Capel, Llyn y Felin
Ganwaith plygais ar fy neulin
Ar y cerrig pan yn hogyn
A dymuniadau am wnedyn.
Llyn y Gwreiddyn, Llyn Glanrafon
A Llyn Befran dan gysgodion.
Y mae un o newydd enw
Llyn Rhen Shw, bedyddiwyd hwnnw.
Llyn Cae-Criw ar coed yn cuddio
A Than y Trap sydd islaw iddo.
Llynnau Golchi au gro dibrin,
Ffos y Criw ac Ynys Bercin.
A gerllaw Llyn Hir syn llifo
Dan gysgodion coed sydd yno.
Llynnaur Helyg a Phwll Gorlan,
Llyn yr Henbont ger Bontfechan.
Y ddwy afon beraidd hefyd
A ymunant yn y Ddwyryd.
Ac oddi yno hyd ir cefnfor
Yr enw arnynt ydyw Dwyfor.
Y Dorlan Las ar Wig sydd wedyn.,
Ni anghofiaf enwi Cemlyn.
Yr Allt Goch ar llyn sydd dano
Beth ywr enw? Nid wyn cofio.
Llyn y Tyweirch, Rhyd yr Odyn
A Llyn Mawr hyd at Ffos Terfyn.
Ac islaw Llyn Bach sydd yma
A Llyn Du wrth Big y Morfa.
Robert Jones (Dwyfor)
Llundain 1931.